Cyflwyniad
Mae Uniper yn bwriadu datblygu gorsaf bŵer carbon isel newydd, hynod effeithlon gyda thechnoleg dal carbon yn ei safle yng Nghei Connah yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Pe bai’n cael caniatâd ac yn cael ei ddatblygu, byddai’r prosiect yn gallu cynhyrchu pŵer carbon isel yn hyblyg ac yn ddibynadwy er mwyn diwallu’r angen cynyddol am drydan, pryd bynnag y bydd ei angen.
Os rhoddir caniatâd, disgwylir i'r orsaf bŵer newydd gael ei datblygu mewn dau gam; gyda chapasiti cychwynnol o hyd at 550MW o bŵer carbon isel, gan ehangu’n ddiweddarach i 1.1GW.
O gwblhau cam un, gallai’r prosiect gyflenwi digon o drydan i bweru’r hyn sy’n cyfateb i hyd at 1.4 miliwn o gartrefi bob blwyddyn. Gallai cam un fod yn weithredol erbyn 2030.
Rydym yn ymgynghori ar ein prosiect arfaethedig o Ddydd Llun 26 Chwefror 2024 i ddydd Llun 25 Mawrth 2024. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i chi roi adborth a gwybodaeth yn gynnar, cyn i waith dylunio manylach gael ei wneud.
Yn dilyn y rownd hon o ymgysylltu, bydd cyfle pellach, ffurfiol i roi sylwadau ar ein cynigion yn ein hymgynghoriad statudol cyn cyflwyno ein cais am orchymyn cydsyniad datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Llenwch y ffurflen hon i roi gwybod i ni beth yw eich barn. Os oes gennych unrhyw broblemau neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch, ffoniwch 0800 012 9156 neu e-bostiwch ni ar info@connahsquaylcp.co.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad gan Uniper yw 11:59pm dydd Llun 25 Mawrth 2024.
This document is also available in English.
Trosolwg
Mae’r ffurflen adborth hon yn rhan o’n deunyddiau ymgynghori, sy’n cynnwys Llyfryn Ymgynghori ac Adroddiad Cwmpasu yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA).
Mae ein holl ddeunyddiau ymgynghori, gan gynnwys y ffurflen adborth hon, i’w gweld ar ein gwefan ymgynghori: www.uniperuk.consulting/cqlcp/. Mae ein gwefan hefyd yn cynnwys manylion am sut y gallwch gael gafael ar wybodaeth ar ffurf copi caled, os ydych yn dymuno gwneud hynny. Mae'r holl ddeunyddiau ar gael yn Saesneg, neu yn y Gymraeg.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen ein Llyfryn Ymgynghori i’ch helpu i roi adborth ar ein cynigion. Efallai y byddwch hefyd am gyfeirio at yr Adroddiad Cwmpasu EIA i gael gwybodaeth fanylach.
Beth rydym yn ymgynghori yn ei gylch
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn ystod cyfnod cynnar iawn y prosiect. Efallai na fydd gwybodaeth fanwl ynghylch dyluniad yr orsaf bŵer, cynllun posibl y safle a datblygiadau cysylltiedig, ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn am y prosiect yn ei gyfanrwydd, a'r hyn y credwch y dylem ei ystyried wrth i ni ddatblygu ein cynigion ymhellach.
Yn benodol, mae gennym ddiddordeb mewn clywed eich barn am y canlynol:
- yr angen am y prosiect ac a ydych yn cytuno â datblygu gorsaf bŵer carbon isel newydd;
- safle’r prosiect, gan gynnwys addasrwydd ein safle yng Nghei Connah ar gyfer gorsaf bŵer carbon isel newydd, a’n tybiaethau cychwynnol ynghylch cynllun y prosiect;
- yr astudiaethau a’r asesiadau y byddwn yn eu cynnal fel rhan o’n EIA ac a oes unrhyw beth arall y dylem ei ystyried;
- unrhyw fesurau ychwanegol y dylem eu hystyried yn ein cynigion yn eich barn chi; ac
- unrhyw faterion neu sensitifrwydd lleol y dylem fod yn ymwybodol ohonynt.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal amrywiaeth eang o astudiaethau ac asesiadau technegol, i helpu i lywio dyluniad manwl Pŵer Carbon Isel Cei Connah. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed am unrhyw effeithiau posibl o’r brosiect a ddylai gael eu hasesu yn eich barn chi ar hyn o bryd.